P-05-975 Ailystyriwch y codiad i’r dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi tra'i bod yn anghyfreithlon i deithio i ail gartrefi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ann Cooke, ar ôl casglu cyfanswm o 68 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae codiad o 50% ar y dreth gyngor ar berchnogion ail gartrefi yn Sir Benfro. Yn ystod yr achosion o coronafeirws mae'n anghyfreithlon i deithio i ail gartref, ac felly ni ellir defnyddio'r cartrefi. Mae hwn yn benderfyniad derbyniol, gan ei fod yn lleihau’r posibilrwydd o lethu’r gwasanaethau iechyd gwladol. Ymddengys felly nad yw ond yn deg, o leiaf, y dilëir y codiad yn y dreth gyngor yn ystod yr amser y bydd yr heddlu yn dirwyo unrhyw un sy'n teithio i ail gartref.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
· Canolbarth a Gorllewin Cymru